Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (75) |
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro
Cafodd Peter Black ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro.
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 5, 9 a 12 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 14:17.
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 7, 9 – 12 ac 14 – 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 15:01.
Atebwyd cwestiynau 1 – 4 gan Peter Black. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl.
4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Roi Pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU
Dechreuodd yr eitem am 15:10.
NDM5022 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Gwener 23 Mawrth 2012.
Noder: Gosodwyd ymatebion y Prif Weinidog, y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009
Dechreuodd yr eitem am 15:59.
NDM5021 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.45.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5025 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cryfder y teimlad yn erbyn cynigion i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ac yn mynegi pryder ynghylch yr ymgysylltiad â chlinigwyr a’r cyhoedd;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Colegau Brenhinol i adolygu perthnasedd y canllawiau diogelwch clinigol a sicrhau bod y canllawiau hyn wedi’u teilwra ar gyfer amodau lleol, ac yn adlewyrchu amodau lleol, gan gynnal arfer gorau; a
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
23 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
20 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
‘gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau staffio digonol ym mhob rhan o Gymru’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
20 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3 ar ôl ‘adlewyrchu amodau lleol’ cynnwys ‘, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ymylol,’
Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5025 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau staffio digonol ym mhob rhan o Gymru.
2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:41.
7. Dadl Fer - WEDI'I GOHIRIO
Daeth y cyfarfod i ben am 17:44.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2012